Croeso
Mae’r wefan yma wedi’i chreu gan bobl ifanc, i bobl ifanc.
Gwrandewch ar beth sy’n bwysig i bobl ifanc yn Sir Benfro.
Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth sydd ar gael i’ch helpu chi, ac felly rydym wedi creu gwybodaeth er mwyn i chi wybod ble i gael help, a hefyd grwpiau cymorth ar-lein anhygoel sy’n gallu rhoi gwybodaeth i chi am lefydd i chwilio.
Byddwch yn ddiogel, byddwch yn garedig wrthych chi eich hun cyn bobl eraill a byddwch yn datblygu i fod yn oedolyn anhygoel sy’n barod i wynebu pa bynnag her sy’n eich wynebu.
Y Cynghorydd Josh Beynon
Gwyliwch y fideos i glywed barn pobl ifanc am lesiant yn yr ysgol.
Mae llawer o bobl sy’n gallu eich helpu gyda’ch llesiant yn yr ysgol. Gwyliwch y fideo yma er mwyn gweld pwy sydd yna i’ch helpu chi.
Mae timau Cymorth Bugeiliol ar gael ym mhob ysgol uwchradd. Maen nhw’n eich mentora, eich hyfforddi a’ch helpu chi gydag unrhyw bryderon personol sydd gennych chi.
Mae anogwyr dysgu yn eich cefnogi mewn ffordd sydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer eich anghenion chi ac yn eich helpu i ail-ymgysylltu â’ch dysgu.
Mae Cynorthwywyr Cymorth Cysgu Emosiynol yn gweithio gydag athrawon i’ch helpu chi gyda’ch llesiant emosiynol. Mae’r ELSAs yn cael eu goruchwilio gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg.
Mae cwnselydd ynghlwm â phob ysgol uwchradd sy’n rhoi cymorth cyfrinachol, anfeirniadol i chi mewn amgylchedd diogel.
Mae nyrs ysgol ynghlwm â phob ysgol uwchradd sy’n hyrwyddo Llesiant ac yn rhoi help i bobl ifanc.
Mae Gweithiwr Ieuenctid ym mhob ysgol uwchradd. Mae Gweithwyr Ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a help i bobl ifanc.
Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi.
Beth mae Llesiant yn ei olygu i chi? Sut allai ysgolion wella’r ffordd y maen nhw’n cynnig cymorth i bobl ifanc, er mwyn sicrhau eu llesiant gorau posibl?
Cwblhewch y ffurflen yma os hoffech chi gysylltu â ni.
Mae’r wefan yma wedi’i chreu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Felly rydym eisiau clywed eich syniadau chi.
Allwch chi feddwl am enw newydd, addas ar gyfer y wefan? Teipiwch eich syniad yn y blwch gyferbyn.
Beth am geisio dylunio logo newydd ar gyfer y wefan? Defnyddiwch y botwm ‘uwchlwytho’ i uwchlwytho eich logo o’ch dyfais.