Gallwch gael help naill ai yn yr ysgol neu ar-lein.
Sgroliwch lawr am fwy o wybodaeth…
Mae timau Cymorth Bugeiliol ar gael ym mhob ysgol uwchradd. Maen nhw’n eich mentora, eich hyfforddi a’ch helpu gydag unrhyw broblemau personol sydd gennych chi.
Mae anogwyr dysgu yn eich cefnogi mewn ffordd sydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer eich anghenion chi ac yn eich helpu i ail-ymgysylltu â’ch dysgu.
Mae Cynorthwywyr Cymorth Cysgu Emosiynol yn gweithio gydag athrawon i’ch helpu chi gyda’ch llesiant emosiynol. Mae’r ELSAs yn cael eu goruchwylio gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg.
Mae cwnselydd ynghlwm â phob ysgol uwchradd sy’n rhoi cymorth cyfrinachol, anfeirniadol i chi mewn amgylchedd diogel.
Mae nyrs ysgol ynghlwm â phob ysgol uwchradd sy’n hyrwyddo Llesiant and yn rhoi help i bobl ifanc.
Mae Gweithiwr Ieuenctid ym mhob ysgol uwchradd. Mae Gweithwyr Ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a help i bobl ifanc.
Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi.
Beth mae Llesiant yn ei olygu i chi? Sut allai ysgolion wella’r ffordd y maen nhw’n cynnig cymorth i bobl ifanc, er mwyn sicrhau eu llesiant gorau posibl?
Cwblhewch y ffurflen yma os hoffech chi gysylltu â ni.
Mae’r wefan yma wedi’i chreu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Felly rydym eisiau clywed eich syniadau chi.
Allwch chi feddwl am enw newydd, addas ar gyfer y wefan? Teipiwch eich syniad yn y blwch gyferbyn.
Beth am geisio dylunio logo newydd ar gyfer y wefan? Defnyddiwch y botwm ‘uwchlwytho’ i uwchlwytho eich logo o’ch dyfais.